#

 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-755

Teitl y ddeiseb: Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr.

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Cylchfan Ewenni, Merthyr Mawr, Broadlands a Threlales yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr.

Mae llawer o ddamweiniau yn digwydd ar yr A48 ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Lladdwyd dau berson dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae gormod o fân ddamweiniau yn digwydd i geir, cerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r ffordd hon, yn ogystal â damweiniau a fu bron â digwydd.

Er hyn, mae'r A48 o Island Farm yn parhau i fod yn ffordd lle gellir teithio ar gyflymder o 60 mya, ac mae llwybr beicio Broadlands yn gorffen yn Newbridge Fields.

Rydym yn galw am:

- ostwng y terfyn cyflymder o 60 mya i 40 mya ar unwaith;

- man croesi diogel ar yr A48 o warchodfa natur Newbridge Fields/Craig-y-Parcau ar lwybr Merthyr Mawr;

- llwybr cerdded/beicio estynedig i alluogi ein plant i gerdded i'r ysgol yn ddiogel;

- gwaith ymchwil i opsiynau i atal pobl rhag anwybyddu'r cyfarwyddyd i beidio â throi i'r dde ar gyffyrdd Merthyr Mawr, er enghraifft ynys ganolog neu ddarparu cylchfan er mwyn galluogi cerbydau i droi yn ddiogel.

- Rhaid sicrhau bod arian ar gael ar unwaith i atal rhagor o drychinebau.

Ymunwch â'r ymgyrch heddiw. Faint o deuluoedd eraill fydd yn gorfod gweld eu bywydau'n cael eu dinistrio cyn y bydd camau'n cael eu cymryd? Nid oes unrhyw fannau croesi diogel o'r llwybrau cerdded cyhoeddus sy'n cysylltu gwarchodfa natur Newbridge Fields/Craig-y-Parcau â chefn Broadlands ac ymlaen i lwybr dynodedig Merthyr Mawr. Disgwylir i blant Broadlands gerdded ar ffordd lle gellir teithio ar gyflymder o 60 milltir yr awr er mwyn cyrraedd Ysgol Brynteg, neu groesi'r ffordd honno, gan beryglu eu bywydau bob dydd. Nid yw rhai gyrwyr yn talu sylw i'r arwyddion sy'n eu gorchymyn i beidio â throi i'r dde yng nghyffyrdd Merthyr Mawr, ac mae hyn yn creu peryglon ychwanegol i ddefnyddwyr eraill. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cysylltu'r broses o gyflwyno gwelliannau â'r datblygiad hir-ddisgwyliedig yn Island Farm.

Y cefndir

Llywodraeth Cymru yw'r Awdurdod Priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd Cymru, a'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am rwydweithiau ffyrdd lleol.  Ffordd leol yw'r rhan o'r A48 y cyfeirir ati yn y ddeiseb hon, rhwng Trelales a Waterton (gweler Ffigur 1).  Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont yw'r awdurdod priffyrdd perthnasol.

Ffigur 1: A48 Pen-y-bont ar Ogwr (Trelales i Waterton)

(Ffynhonnell: Arolwg Ordnans / y Gwasanaeth Ymchwil)

Comisiynodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ymgynghorydd i gynnal Astudiaeth Llwybr gyfer y rhan hon o'r A48 ym mis Awst 2016 yn dilyn gwrthdrawiad angheuol a ddigwyddodd ar 12 Gorffennaf 2016 yng nghyffordd yr A48 â Ffordd Merthyr Mawr.  Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys dadansoddiad o wrthdrawiadau ag anafiadau personol a gofnodwyd dros gyfnod o bum mlynedd rhwng 1 Hydref 2011 a 30 Medi 2016.  Yn ystod y cyfnod hwn, cofnodwyd cyfanswm o 32 o wrthdrawiadau ar y rhan hon o'r A48. Achosodd y rhain i gyfanswm o 56 o bobl gael eu hanafu neu eu lladd (3 marwolaeth, 7 o anafiadau difrifol a 22 o fân anafiadau).

Yn dilyn yr astudiaeth, cyflwynodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gais am Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru yng nghylch cyllido 2017-18.  Mae'r ffurflen gais am grant, nad yw wedi'i chyhoeddi, yn amlygu y bu ymgyrch gan drigolion lleol, y wasg, cynghorwyr lleol ac Aelodau Cynulliad i wella diogelwch ar y ffyrdd yn y fan hon.  Mae'n dweud bod y mesurau arfaethedig yn cynnwys adolygu'r terfyn cyflymder presennol a gwella cyfleusterau croesi i gerddwyr.  Roedd y cynnig yn cynnwys creu llochesau canolog a newid y marciau ffordd i gyfyngu ar led y ffordd sydd ar gael ar gyfer goddiweddyd.  Amcangyfrifwyd mai cost y cynllun fyddai £390,000.  Roedd y cais yn aflwyddiannus.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae dogfen Llywodraeth Cymru, Fframwaith Diogelwch Ffyrdd ar gyfer Cymru, yn gosod targedau ar gyfer lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru erbyn 2020, o'i gymharu â llinell sylfaen 2004-08.  Y targedau hyn yw cyflawni:

§    Gostyngiad o 40 y cant yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol;

§    Gostyngiad o 25 y cant yn nifer y beicwyr modur sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol; a

§    Gostyngiad o 40 y cant yn nifer y bobl ifanc (16-24 oed) sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol.

Dywed gwefan Grant Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru fod y Grant yn darparu cyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer amrywiaeth o brosiectau, â'r nod o leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd Cymru. Mae'r grant cyfalaf yn cynnwys arian ar gyfer "prosiectau peirianyddol sy'n targedu safleoedd, llwybrau ac ardaloedd lle mae pobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol".  Mae'r wefan yn cynnwys rhestr o brosiectau a ariannwyd trwy'r Grant Diogelwch Ffyrdd yn 2017-18, ynghyd â phrosiectau llwyddiannus y Gronfa Trafnidiaeth Leol a'r Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.

Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at yr angen i wella seilwaith cerdded a beicio ar y rhan hon o'r A48. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol Cymru fapio a chynllunio ar gyfer llwybrau sy'n addas ar gyfer teithio llesol, ac adeiladu seilwaith ar gyfer cerdded a beicio a'i wella bob blwyddyn.  Rhaid i awdurdodau lleol baratoi mapiau o lwybrau teithio llesol sy'n bodoli eisoes, a "Mapiau Rhwydwaith Integredig" sy'n nodi'r llwybrau a'r cyfleusterau sydd eu hangen i greu rhwydwaith integredig o lwybrau teithio llesol.   Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at ariannu gwelliannau drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a'r Grant Diogelwch Ffyrdd. Mae gwefan Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys y "Mapiau Llwybrau Presennol", a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2016, ac yn nodi y bydd y Mapiau Rhwydwaith Integredig yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w cymeradwyo yn ystod yr hydref 2017. 

Dywed y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ynghylch y ddeiseb hon:

Bridgend County Council submitted an application to the Road Safety Capital Grant for this scheme, but unfortunately the scheme did not score highly enough to receive funding.  The scheme is first on the reserve list and will be considered should funding become available.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ni all y Gwasanaeth Ymchwil ddod o hyd i unrhyw gofnod o'r Cynulliad yn ystyried diogelwch ar y ffyrdd ar y rhan hon o'r A48, na'r cais am Grant Diogelwch Ffyrdd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.